Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Debra Carter, Pennath Yr Is-Adran Llywodraeth Leol a Pherfformiad Frank Cuthbert, Head of Scrutiny, Democracy and Participation Team |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog ac at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn cael eu barn gychwynnol ar y ddeiseb;
Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n fodlon ystyried gwneud gwaith ar y mater hwn;
Cyfeirio’r deisebwyr at adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans;
Ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn a yw’n bwriadu ailedrych ar yr adroddiad ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn y dyfodol.
2.2P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
Wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth yn y maes hwn, yn benodol mewn perthynas â’r pwyntiau a godwyd yn y ddeiseb;
Ysgrifennu at Ofcom i gael ei farn ar y ddeiseb.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning
3.2
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, rhoddodd Bethan Jenkins y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei Datganiad o Farn ar y mater a godir yn y ddeiseb. Dywedodd y byddai’n rhoi gwybod i ymgyrch Bradley Manning pryd y bydd cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd er mwyn tynnu ei sylw at y ddeiseb.
3.3P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath
Yn sgîl y ffaith bod y deisebwyr wedi rhoi gwybod i’r tîm clercio bod yr adeilad bellach yn cael ei ddymchwel, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.4P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd
3.5
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth a dogfennau yn ymwneud â’r ddeiseb hon.
Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r deisebydd at ddatganiadau’r Gweinidog ar y mater hwn ac i’w gynghori bod y Pwyllgor, yn sgîl datganiadau clir y Gweinidog ar y mater hwn, yn bwriadu cau’r ddeiseb oni bai bod y deisebydd o’r farn bod rhywbeth arall y gall y Pwyllgor wneud yn ei chylch.
3.6P-03-315 Deiseb i Gael Croesfan Newydd dros Afon Dyfi
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Wneud cais am amserlen ddangosol ar gyfer y gwaith a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog; a
Gwneud cais bod y Gweinidog yn ymrwymo’n bendant i ymweld â’r groesfan bresennol.
3.7P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn ceisio cael eglurder ar y sefyllfa, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed.
3.8P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd
3.9
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i’r deisebwyr am ei benderfyniad i gau’r ddeiseb oni bai bod ymateb yn dod i law ganddynt erbyn canol mis Mawrth 2012.
3.10 P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig
3.11
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:
Gynnal sesiwn dystiolaeth lafar ar y materion a godir yn y ddeiseb;
Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn tynnu ei sylw at y materion a godir yn y ddeiseb.
3.12 P-04-334 Uned arennol newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl
Trafododd y Pwyllgor yr ymweliad rapporteur ag uned arennol Ysbyty'r Tywysog Siarl a chytunodd i:
Gynnal ymweliad â’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd, gan estyn gwahoddiad i unrhyw gleifion yn uned Ysbyty'r Tywysog Siarl a hoffai fynd iddo;
Ysgrifennu at y Gweinidog gan wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am yr achos busnes dros fuddsoddi cyfalaf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.
3.13 P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd
3.14
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:
Wneud cais am amserlen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llunio’r cynllun sector a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog;
Gwneud cais am fanylion gan y Gweinidog ynghylch y mathau gwahanol o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a chyfran y gwastraff sy’n cael ei drin yn y modd hwn; a
Chomisiynu darn byr o waith ymchwil ar y mater gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.
3.15 P-03-143 Ysgol Penmaes
Yn sgîl y diffyg ymateb a gafwyd gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 10.08 a 10.31 o dan Reol Sefydlog 17.47
4. Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth lafar
4.1P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau
4.2
Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb.
4.3P-04-332 Manylion am wariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb, a chytunodd i rannu manylion am yr effaith a’r buddion a brofwyd gan awdurdodau lleol sydd wedi dechrau cyhoeddi manylion am eu gwariant.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.